Pethau caffael wedi’u hailddefnyddio a’u hadfer sydd yma: hen frics a’u pridd yn deffro yn y cof adeiladau aeth dros gof ers canrifoedd, drysau wedi’u tynghedu i fod yn goed tân bellach wedi’u trwsio a’u hadnewyddu, grisiau y cawsom hyd iddynt yn pydru bron dan gladd ar lan y môr bellach yn silffoedd llyfrau, y bwrdd a welai mam pan oedd yn eneth heddiw yng nghanol y gegin fawr, yr hen ddrws unwaith eto’n agor i groesawu gwesteion, a’r bar brecwast, anrheg gan berchennog tŷ bwyta hanesyddol sydd bellach ar gau, wedi adennill ei briod le er mwyn ein gwesteion.
Y tu allan, gewch chi ardd fawr i wagswmera yn yr awyr iach lle’r ydym wedi gwneud popty coed a barbiciw.
Ac yn ddifyrrach fyth, mae yma ein cyfeillion pedeircoes mynwesol: y gaseg Iris, y ddau gi bach Polly a Benny sy’n chwarae gyda’u holl ffrindiau yn y cyffiniau a’r gath Zanna Bianca yn mynd am dro wrth ei phwysau yn yr haul.